colled (colledion) eb

Mae ‘colled’ fel arfer yn cael ei ddefnyddio mewn cyd-destun ariannol.

Er enghraifft, mae Jac yn prynu tŷ am £185 000 ac yn ei werthu am £175 000. Mae’r pris gwerthu £10 000 yn llai na’r pris gwreiddiol, sef y pris prynu. Mae hyn yn golygu bod Jac wedi gwneud colled o £10 000.