rheol (rheolau) eb
Dull gweithredu ar gyfer cynnal proses yw rheol.
Er enghraifft, y rheol ar gyfer y dilyniant rhif canlynol yw ‘lluosi â 3 ac yna tynnu 5′:
-
7, 16, 43, 124, 367, …
Yng nghyd-destun patrymau a dilyniannau, mae geiriau neu algebra yn cael eu defnyddio i fynegi rheol.
Er enghraifft, yn y dilyniant uchod mae’r term nesaf tair gwaith y term presennol ac yna tynnu 5. Hynny yw, tn+1 = 3 × tn – 5, lle mae tn yn cynrychioli’r term presennol, a tn+1 yn cynrychioli’r term nesaf.