cylchdro (cylchdroeon) eg

Mae gwrthrych sy’n cael ei droi 360° o amgylch pwynt penodol yn un cylchdro. Mae’r pellter o ganol cylchdro i unrhyw bwynt ar y gwrthrych yn aros yr un peth. Mae pob pwynt yn gwneud cylch o amgylch y canol.

Mae cylchdro yn cael ei fesur mewn graddau (ongl). Mae’n bosibl defnyddio onglydd i fesur maint cylchdro.