rheol cosineb

Mae’r rheol cosin yn cael ei defnyddio i ddarganfod hyd ochr neu faint ongl sydd ar goll mewn triongl. Gall fod yn driongl ongl sgwâr neu’n driongl heb ongl sgwâr.

Mae’r rheol yn seiliedig ar y berthynas rhwng dwy o ochrau triongl a’r ongl rhwng yr ochrau hynny.

Mae dwy ffurf i’r rheol:

(1) I ddarganfod hyd ochr:

    \[ a^2 = b^2 + c^2 - 2bc\cos A \\ \]

    \[ b^2 = a^2 + c^2 - 2ac\cos B \\ \]

    \[ c^2 = a^2 + b^2 - 2ab\cos C \]

(2) I ddarganfod maint ongl:

    \[ cos  A = \frac{b^2 + c^2 -a^2}{2bc} \]

    \[ cos  B = \frac{a^2 + c^2 -b^2}{2ac} \]

    \[ cos  C = \frac{a^2 + b^2 -c^2}{2ab} \]

Mae’r llythrennau a, b, c yn cyfeirio at ochrau’r triongl, ac mae’r llythrennau A, B, C yn cyfeirio at yr onglau yn y triongl sydd gyferbyn â’r ochrau a, b, c.