tebygolrwydd (tebygolrwyddau) eg

Dyma’r term am ba mor debygol ydyw y bydd rhywbeth yn digwydd.

Mae tebygolrwydd fel arfer yn cael ei fynegi fel ffracsiwn rhwng 0 (rhywbeth sy’n gwbl amhosibl) ac 1 (rhywbeth sy’n sicr o ddigwydd).

Er enghraifft, mae chwe chanlyniad posibl wrth daflu dis:

    1, 2, 3, 4, 5, 6.

Y tebygolrwydd bod y dis yn glanio ar unrhyw un o’r rhifau hynny yw \dfrac{1}{6}.

Mae enwadur y ffracsiwn yn dangos nifer y digwyddiadau posibl, ac mae’r rhifiadur yn dangos nifer y canlyniadau sy’n cynrychioli’r digwyddiad ‘llwyddiannus’.

Pan mae digwyddiadau yn annibynnol ar ei gilydd, cyfanswm eu tebygolrwydd yw 1.

Er enghraifft, wrth daflu dis:

    T (chwech) + T (dim chwech) = 1