symleiddio ffracsiwn be

Mae ffracsiwn yn ei ffurf symlaf pan nad yw’n bosibl i’r rhifiadur na’r enwadur fod yn llai.

Rydym yn gwneud hyn trwy rannu’r rhifiadur a’r enwadur â’r rhif uchaf posibl. Rhaid i’r rhif hwn rannu’n union â’r rhifiadur a’r enwadur.

Er enghraifft, gallwn symleiddio \dfrac5{15} drwy rannu’r rhifiadur a’r enwadur â 5. Mae hyn yn rhoi \dfrac13.

Rydym weithiau’n cyfeirio at ‘symleiddio ffracsiwn’ fel ‘canslo ffracsiwn’ neu ‘leihau ffracsiwn’.