hecsagon (hecsagonau) eg

Polygon sydd â chwe fertig a chwe ochr yw hecsagon.

Mae dau fath o hecsagon:

    (1) Hecsagon rheolaidd
    (2) Hecsagon afreolaidd.

Mae gan hecsagon rheolaidd a hecsagon afreolaidd chwe ochr, a chyfanswm onglau mewnol y ddau yw 720°. Mae onglau mewnol hecsagon rheolaidd yn 120° bob tro, 720° ÷ 6 = 120°. Nid yw onglau mewnol hecsagon afreolaidd i gyd yn hafal.