cyfradd gyfnewid (cyfraddau cyfnewid) eb

Os ydym yn newid un mesur am fesur arall, yr hyn rydym yn ei wneud yw cyfnewid. Hynny yw, mae un mesur yn cymryd lle mesur arall.

Gallwn feddwl am hyn yng nghyd-destun mynd ar wyliau i wlad dramor.

Mae Steffan yn mynd ar ei wyliau i Sbaen. Arian cyfred y wlad honno yw’r ewro (€), a’r gyfradd gyfnewid yw £1 = €1.14. Mae hyn yn golygu am bob punt mae’n ei chyfnewid, mae’n cael €1.14 yn ei lle.

Mae Steffan eisiau cyfnewid £400.

Felly, 400 × 1.14 = €456

Mae hyn yn golygu bod gan Steffan €456 i’w wario ar ei wyliau.