triongl hafalochrog (trionglau hafalochrog) eg

Dyma’r enw sy’n cael ei roi ar driongl os yw hyd pob ochr yn hafal, neu os yw maint pob ongl yn hafal.

Mae onglau mewnol triongl hafalochrog i gyd yr un maint, sef 60°. Mae arcau bach yn cael eu cynnwys yn yr onglau i ddangos eu bod yn hafal.

Mae gan driongl hafalochrog dair llinell cymesuredd.