manwl gywirdebeg

Mae manwl gywirdeb yn cyfeirio at fanylder mesuriad neu gyfrifiad penodol. Hynny yw, pa mor agos yw’r gwerth sydd wedi ei fesur neu’r gwerth sydd wedi ei gyfrifo i’r gwerth gwirioneddol (gwir werth).

Er enghraifft, gall mesuriad pren mesur gael ei fesur i’r milimetr agosaf, neu gall ateb i gyfrifiad gael ei dalgrynnu i ddau le degol.

Mae manwl gywirdeb yn dibynnu ar y darn o offer neu’r dull rydych chi’n eu defnyddio wrth fesur neu gyfrifo.

Rydym weithiau’n cyfeirio at ‘manwl gywirdeb’ fel ‘cywirdeb’.