degolyn terfynus (degolion terfynus) eg

Ffracsiwn degol sydd â nifer cyfyngedig o ddigidau yw degolyn terfynus. Hynny yw, nid yw’r digidau’n ailadrodd yn ddiddiwedd.

Mae \dfrac{25}{100} yn enghraifft o hyn, gan fod \dfrac{25}{100} = 0.25. Mae ganddo ddau le degol yn unig.

Gallwn weithio allan a yw ffracsiwn yn rhoi degolyn terfynus trwy weld a ydym yn gallu rhannu’r enwadur â 2 neu 5.

Mae enghreifftiau o ddegolion terfynus gyferbyn.

Y gwrthwyneb i ddegolyn terfynus yw degolyn cylchol.