canolrif (canolrifau) eg
Dyma’r rhif neu’r gwerth canol mewn set o rifau neu feintiau wedi eu gosod mewn trefn esgynnol.
Gadewch i ni ddefnyddio’r rhifau hyn fel enghraifft:
-
6, 45, 15, 5, 14
I ddechrau, rhaid eu gosod mewn trefn esgynnol:
-
5, 6, 14, 15, 45.
14 yw’r rhif canol, felly 14 yw’r canolrif.
Os oes dau rif canol – fel sy’n digwydd pan fydd nifer y data yn y set yn eilrif – rhaid cyfrifo gwerth sydd hanner ffordd rhwng y ddau rif.
Gadewch i ni ddefnyddio’r rhifau hyn fel enghraifft:
-
7, 14, 6, 5, 45, 8
Unwaith eto, rhaid eu gosod mewn trefn esgynnol:
-
5, 6, 7, 8, 14, 45.
Nid oes rhif canol yma, felly rhaid cyfrifo’r gwerth sydd hanner ffordd rhwng y ddau rif canol.
Felly, 7 + 8 15
7.5 yw’r rhif canol, felly 7.5 yw’r canolrif.