sampl eb

Dyma’r enw ar gyfran o boblogaeth. Mae’r sampl yn cael ei defnyddio i ddarganfod rhywbeth am y boblogaeth gyfan.

Er enghraifft, mae gêm rygbi yn cael ei chwarae yn Stadiwm y Principality, ac mae 500 o’r bobl sydd yno yn cael eu hapddewis er mwyn darganfod beth yw eu hoff fwyd. Y sampl yw’r 500 o bobl, a’r boblogaeth yw pob un person sy’n gwylio’r gêm.