diagram amlder (diagramau amlder) eg
Mae diagram amlder yn cael ei ddefnyddio i arddangos data di-dor wedi’u grwpio.
Mae’r math hwn o ddiagram yn debyg i siart bar. Y prif wahaniaeth rhwng y ddau yw nad oes bwlch rhwng y barrau.
Mae ganddo gyfwng dosbarth cyfartal.
Gadewch i ni ddefnyddio’r wybodaeth isod fel man cychwyn.
Mesurwyd taldra 30 o ddisgyblion mewn gwers Gymraeg. Cafodd y canlyniadau eu grwpio mewn tabl amlder.
Yna, cafodd diagram amlder ei luniadu i ddangos y data hyn.
Mae’r echelin lorweddol yn dangos y math o ddata sy’n cael eu casglu, ac mae’r echelin fertigol yn dangos yr amlder, sef nifer y bobl ym mhob cyfwng.