ystadegau ell

Dyma’r term am gasgliad o ddata/gwybodaeth o natur feintiol sy’n cynrychioli mesuriadau neu ffeithiau.

Mae pecynnau prydau bwyd parod yn dangos ystadegau. Mae’r gwahanol grwpiau o faetholion sydd yn y bwyd – carbohydradau, proteinau, brasterau ac yn y blaen – yn cael eu dangos fel cyfrannau ar y pecyn.

Pan mae ystadegau yn cyfeirio at ddata sy’n ganlyniad i gyfrif pethau, er enghraifft nifer y myfyrwyr mewn dosbarth, mae’r data yn arwahanol.

Pan mae ystadegau yn cyfeirio at ddata sy’n fesuriadau, er enghraifft cynhwysedd neu hyd, mae’r data yn ddi-dor.