allwerth (allwerthoedd) eg

Gwerth sy’n llai o lawer neu’n fwy o lawer na rhan fwyaf y gwerthoedd eraill mewn dosraniad data.

Efallai fod rheswm da pam mae hyn yn digwydd, ond gall hefyd fod yn wall wrth gofnodi canlyniadau a gallwn ddewis ei diystyru.

Er enghraifft, dyma’r amserau aros (mewn munudau) am fws ar ddiwrnod penodol:

    12, 13, 8, 11, 15, 93, 10

Mae 93 yn allwerth.