pictograff (pictograffau) eg

Fformat sy’n cael ei ddefnyddio i gynrychioli gwybodaeth ystadegol yw pictograff.

Mae’n defnyddio lluniau neu symbolau i gynrychioli gwerth data. Rhaid cynnwys allwedd i esbonio beth mae’r llun neu’r symbol yn ei gynrychioli.

Er enghraifft, mae siop fara yn cadw cofnod o sawl torth sy’n cael ei phrynu, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ar ffurf pictograff. Mae cylch yn cael ei ddefnyddio i gynrychioli 20 torth o fara. Felly, mae hanner cylch yn cynrychioli 10 torth o fara, a chwarter cylch yn cynrychioli 5 torth o fara. Mae’r tabl yn dangos y canlyniadau.

Gallwn weld bod 40 torth wedi’i gwerthu ddydd Llun, 30 torth ddydd Mawrth, 60 torth ddydd Mercher, 45 torth ddydd Iau a 100 torth ddydd Gwener.

Enw arall ar bictograff yw pictogram.