buanedd (buaneddau) eg
Mesur o ba mor gyflym mae gwrthrych yn teithio dros amser penodol yw buanedd.
Y fformiwla ar gyfer buanedd yw:
Bydd yr uned buanedd yn dibynnu ar yr unedau pellter a’r unedau amser sy’n cael eu defnyddio yn y cyfrifiad.
Er enghraifft, os yw pellter yn cael ei fesur mewn milltiroedd a’r amser yn cael ei fesur mewn oriau, yna yr uned buanedd yw milltir yr awr (m.y.a.).