talu’n ôl (mewn cyfrifo) be

Mae talu’n ôl yn ddull neu strategaeth ar gyfer cyfrifo yn y pen neu ar bapur.

Er mwyn symleiddio’r broses, rydym yn talgrynnu un o’r rhifau mewn cyfrifiad.

Er enghraifft, mae 36 + 18 yn cael ei dalgrynnu i 36 + 20 sy’n rhoi cyfanswm o 56. Yna, rydym yn addasu’r ateb gan dynnu 2 er mwyn cael yr ateb i’r cyfrifiad gwreiddiol, sef 54.

Yn ogystal â thynnu rhif, mae’n bosibl adio rhif. Os ydym yn talgrynnu rhif i werth llai, rhaid talu’n ôl drwy adio rhif.

Er enghraifft, mae 87 – 39 yn cael ei dalgrynnu i 87 – 40 sy’n rhoi cyfanswm o 47. Yna, rydym yn addasu’r ateb gan adio 1 er mwyn cael yr ateb i’r cyfrifiad gwreiddiol, sef 48.