rhannu hirbe
Rhannu hir yw’r broses o rannu rhifau mawr heb ddefnyddio cyfrifiannell.
Mae’n debyg i rannu byr, ond yn hytrach nag ysgrifennu’r gweddill ar y top mae’n cael ei ysgrifennu o dan y sym.
Gadewch i ni rannu 8855 a 24.
Rhaid rhannu pob digid â 24, gan ddechrau ar yr ochr chwith. Bydd unrhyw weddill yn ymuno â’r digid nesaf i greu rhif newydd i’w rannu.
Dyma’r camau:
-
8 (miloedd) ÷ 24 = 0 gweddill 8 (mil)
88 (cannoedd) ÷ 24 = 3 gweddill 16 (cant)
165 (degau) ÷ 24 = 6 gweddill 21 (deg)
215 (unedau) ÷ 24 = 8 gweddill 23 (uned)
Felly, yr ateb yw 3 (cant), 6 (deg) ac 8 (uned) a gweddill 23. Hynny yw, 368 gweddill 23.
Mae’r dull traddodiadol o gyfrifo sym rhannu hir i’w weld gyferbyn.
Dull arall o gyfrifo’r math hwn o sym yw tynnu ailadroddol.