domino (dominos)eg

Set o 28 darn ar siâp petryal neu giwboid yw dominos.

Mae wyneb pob darn wedi ei rannu’n ddau. Mae gan y ddwy ran werth penodol rhwng sero a 6 sy’n cael ei ddangos ar ffurf dotiau. I ddangos 0, nid oes dot ar y sgwâr.

Mae dominos yn cael eu defnyddio i chwarae gêm o’r un enw.