cyfnewid be
Os ydym yn newid rhif neu fynegiad am rif neu fynegiad arall o werth hafal, yr hyn rydym yn ei wneud yw cyfnewid.
Rydym fel arfer yn cyfnewid arian cyfred i fynd ar wyliau dramor. Er enghraifft, cyfnewid punnoedd am ddoleri.
Mae’r broses o gyfnewid hefyd yn cael ei defnyddio mewn rhai dulliau cryno safonol o gyfrifo.
Er enghraifft, cario rhifau mewn sym adio, sym luosi a sym rannu, a sym tynnu gan ddadelfennu.
Rydym hefyd yn cyfnewid yng nghyd-destun rhifyddeg pen.
Er enghraifft:
- 182 – 26
- = 182 – 30 + 4
- = 152 + 4
- = 156