sampl haenedig (samplau haenedig) eb
Dyma’r enw ar sampl sy’n cynnwys nifer o ‘haenau‘ o boblogaeth.
Er enghraifft, gallwn ddewis samplau o wahanol grwpiau oedran. Mae maint y sampl mewn cyfrannedd â maint yr haen, fel mae’r hafaliad hwn yn ei ddangos:
Dyma enghraifft o sampl haenedig.
Mae 500 o ddisgyblion mewn ysgol, ac mae angen holi 50 ohonyn nhw am eu hoff fwyd.
Rhaid gwneud yn siŵr bod yr arolwg yn fanwl gywir, ac felly mae angen amrediad o ddisgyblion ar draws blynyddoedd gwahanol yr ysgol – dyma’r gwahanol ‘haenau’.
Mae’r tabl cyntaf yn dangos nifer y disgyblion ym mhob blwyddyn.
Gan ddefnyddio’r hafaliad, gallwn gyfrifo maint y sampl ar gyfer pob blwyddyn.
-
• Mae 100 o ddisgyblion ym Mlwyddyn 7, felly dyma faint yr haen.
• Mae 500 o ddisgyblion yn yr ysgol, felly dyma faint y boblogaeth.
• Mae angen atebion gan 50 disgybl, felly dyma faint y sampl cyfan.
Felly, nifer y disgyblion yn y sampl ar gyfer Blwyddyn 7 yw 10, gan fod × 50 = 10.
Rydym yn defnyddio’r hafaliad hwn i gyfrifo maint y sampl ar gyfer Blynyddoedd 8–11.