ongl eiledol (onglau eiledol)eb
Pan mae dwy linell yn cael eu croesi gan ardrawslin, yr enw ar yr onglau sydd y naill ochr i’r ardrawslin ac sydd y tu mewn i’r ddwy linell yw onglau eiledol.
Pan mae’r ardrawslin yn croesi llinellau paralel, mae’r onglau eiledol yn hafal.
Mae onglau eiledol yn ffurfio siâp Z.