cronfa ddata (cronfeydd data) eb

Dull o storio set o ddata ar gyfrifiadur yw cronfa ddata.

Mae ysgolion yn cadw cronfeydd data sy’n cynnwys manylion am ddisgyblion. Mae’n bosibl defnyddio amodau chwilio er mwyn dod o hyd i wybodaeth benodol. Er enghraifft, nifer y disgyblion sydd mewn dosbarth, disgyblion sydd â phresenoldeb gwael ac yn y blaen.