rhif cysefin (rhifau cysefin) eg

Dyma’r term am rif cyfan (ac eithrio 1) sydd ag union ddau ffactor, sef y rhif ei hun ac 1.

Er enghraifft:

    Mae 2 yn gallu cael ei rannu’n gyfartal gan 1 a 2 yn unig, felly mae’n rhif cysefin.

    Mae 6 yn gallu cael ei rannu’n gyfartal gan 1, 2, 3 a 6, felly nid yw’n rhif cysefin.

Mae 2, 3, 5, 7, 11 ac 13 yn rhifau cysefin, ond nid yw 1, 4, 6 ac 8.