cromfachauell

Arwydd yw cromfachau.

Mae sawl math gwahanol. Dyma rai ohonyn nhw:

    • cromfachau crwn ( )

    • cromfachau petryal/sgwâr [ ]

    • cromfachau cyrliog { }

Maen nhw’n cael eu defnyddio mewn parau i ddangos eitemau y dylid eu trin gyda’i gilydd, neu i ddangos eitemau sy’n cael blaenoriaeth dros unrhyw beth arall (fel mae CORLAT/CIRLAT yn esbonio).

Er enghraifft:

    2 × (3 + 4)
    = 2 × 7
    = 14

Dyma enghraifft arall:

    (4 + 3) × (7 – 2)

Gallwn weld bod y cromfachau yn grwpio’r 4 a’r 3 gyda’i gilydd, a’r 7 a’r 2 gyda’i gilydd, felly mae’n rhaid eu trin nhw’n gyntaf.

    (4 + 3) × (7 – 2)
    = 7 × 5
    = 35

Heb y cromfachau, y lluosi sy’n cael ei wneud yn gyntaf fel hyn:

    4 + 3 × 7 – 2
    = 4 + 21 – 2
    = 23