tarddbwynt (tarddbwyntiau) eg

Dyma’r term am y man cychwyn ar graff. Fel arfer rydym yn defnyddio’r llythyren O i nodi’r tarddbwynt.

Ar graff dau ddimensiwn, y tarddbwynt yw lle mae’r echelin-x a’r echelin-y yn croesi, sef y cyfesurynnau (0, 0).

Ar graff tri dimensiwn, y tarddbwynt yw lle mae’r echelin-x, yr echelin-y a’r echelin-z yn croesi, sef y cyfesurynnau (0, 0, 0).