rhanadwy ans

Dyma’r term sy’n cael ei ddefnyddio pan mae’n bosibl rhannu un rhif â rhif arall, a’r canlyniad yw rhif cyfan.

Er enghraifft, mae 63 yn union ranadwy â 7 oherwydd 63 ÷ 7 = 9.

Fodd bynnag, nid yw 63 yn rhanadwy ag 8 oherwydd 63 ÷ 8 yw 7 gweddill 7.