rhif anghymarebol (rhifau anghymarebol) eg
Dyma’r enw ar rif real nad yw’n gyfanrif.
Nid yw’n bosibl mynegi rhif anghymarebol fel ffracsiwn cyffredin.
Mae degolion nad ydyn nhw’n derfynus nac yn gylchol yn rhifau anghymarebol.
Mae gan rifau anghymarebol nifer anfeidrol o leoedd degol.
Er enghraifft, mae π yn rhif anghymarebol:
-
π = 3.1415926535897932384626433832795…
Y gwrthwyneb i rif anghymarebol yw rhif cymarebol.