heptagon (heptagonau) eg
Polygon sydd â saith fertig a saith ochr yw heptagon.
Mae dau fath o heptagon:
-
(1) Heptagon rheolaidd
(2) Heptagon afreolaidd.
Mae gan heptagon rheolaidd a heptagon afreolaidd saith ochr, a chyfanswm onglau mewnol y ddau yw 900°. Mae onglau mewnol heptagon rheolaidd yn 128.57° bob tro i ddau le degol, 900° ÷ 7 = 128.57°. Nid yw onglau mewnol heptagon afreolaidd i gyd yn hafal.