gradd (graddau) eg
Uned sy’n mesur ongl.
Mae’r symbol ° yn cael ei ddefnyddio i ddynodi ongl mewn graddau, er enghraifft 90° (90 gradd) sy’n ongl sgwâr.
Dewiswyd 360° fel maint tro cyflawn oherwydd bod gan 360 lawer o ffactorau. Mae’n bosibl rhannu tro cyflawn yn nifer gwahanol o ddarnau hafal mewn ffordd hwylus.