graff pellter-amser (graffiau pellter-amser)eg

Math o graff teithio yw graff pellter-amser. Mae’n dangos gwybodaeth am bellter teithio gwrthrych a’r amser mae’n ei gymryd.

Mae’r pellter yn cael ei blotio ar yr echelin-y ac mae’r amser yn cael ei blotio ar yr echelin-x.

Mae graddiant graff o’r math hwn ar amser penodol yn dangos y buanedd ar yr amser hwnnw.