onglydd (onglyddion)eg

Darn o offer sy’n cael ei ddefnyddio i fesur onglau neu i luniadu onglau yw onglydd.

Mae’r raddfa fel arfer yn cael ei mesur mewn graddau.

Mae dau fath o onglydd:

    • un hanner cylch sy’n mesur onglau o 0° i 180°

    • un crwn sy’n mesur onglau o 0° i 360.