trefn ddisgynnol eb

Mae rhifau sydd wedi eu trefnu o’r mwyaf i’r lleiaf mewn trefn ddisgynnol. Hynny yw, mae’r rhifau yn lleihau.

Er enghraifft, 4, 7, 1, 9, 3, 5 mewn trefn ddisgynnol yw 9, 7, 5, 4, 3, 1.

Gall gwrthrychau gael eu gosod mewn trefn ddisgynnol hefyd.

Er enghraifft, mae’r llun yn dangos coed sydd wedi eu plannu mewn trefn ddisgynnol.

Y gwrthwyneb i drefn ddisgynnol yw trefn esgynnol.