cyflymder (cyflymderau)eg

Mesur o ba mor gyflym mae gwrthrych yn teithio ar amser penodol yw cyflymder.

Y fformiwla ar gyfer cyflymder yw:

    \text {Cyflymder}= \dfrac{\text {Newid mewn dadleoliad}}{\text{Newid mewn amser}}

Bydd yr uned cyflymder yn dibynnu ar yr unedau dadleoliad a’r unedau amser sy’n cael eu defnyddio yn y cyfrifiad.

Er enghraifft, os yw dadleoliad yn cael ei fesur mewn milltiroedd a’r amser yn cael ei fesur mewn oriau, yna yr uned cyflymder yw milltiroedd yr awr (m.y.a.).

Er bod cysylltiad agos rhwng cyflymder gwrthrych a’i fuanedd, mae gwahaniaeth rhyngddynt hefyd. Wrth gyfrifo cyflymder y gwrthrych rhaid i ni ystyried i ba gyfeiriad y mae’n teithio. Mae hyn yn golygu y gall cyflymder gwrthrych fod yn bositif neu’n negatif.

Nid ydym yn ystyried i ba gyfeiriad mae’r gwrthrych yn teithio wrth gyfrifo ei fuanedd. Felly nid yw’n bosibl cael buanedd negatif.