onglau cyfatebol ell
Pan mae dwy linell yn cael eu croesi gan ardrawslin, yr enw ar yr onglau yn y corneli sy’n cyfateb i’w gilydd yw onglau cyfatebol.
Pan mae’r ardrawslin yn croesi llinellau paralel, mae’r onglau cyfatebol yn hafal.
Mae onglau cyfatebol yn ffurfio siâp F.