paralel ans

Mewn plân dau ddimensiwn, mae dwy linell yn baralel os nad ydyn nhw’n croestorri. (Os yw’r llinellau yn cychwyn neu’n gorffen mewn fertig penodol, rhaid eu hymestyn i wirio nad ydyn nhw’n croestorri mewn unrhyw le ar ôl cael eu hymestyn.)

Mae’r llun cyntaf yn dangos llinell goch a llinell las. Mae’r llinell goch yn baralel i’r llinell las.

Rydym yn nodi saethau sy’n pwyntio i’r un cyfeiriad ar linellau sy’n baralel. Mae’r ail lun yn dangos hyn.

Mae onglau yn defnyddio llinellau parallel hefyd:

    onglau eiledol

    onglau cyfatebol

    onglau mewnol.