algebra eg/eb
Mae algebra yn defnyddio gwrthrychau sydd ddim yn rhifau yn lle gwerthoedd anhysbys i wneud cyfrifiadau rhifyddol.
Gadewch i ni ddefnyddio x + 3 = 7 fel enghraifft. Mae gwerth x yn anhysbys ac weithiau’n cael ei alw’n newidyn.
Rydym yn darganfod gwerth x trwy dynnu 3 o’r ddwy ochr fel hyn:
Dyma enghreifftiau o wrthrychau sy’n ymddangos mewn algebra:
-
• termau
• llythrennau
• symbolau
• newidynnau
• ffwythiannau
• hafaliadau
• fformiwlâu
• unfathiannau.