ail isradd (ail israddau) eg

Arwydd: √

Pan mae rhif yn cael ei sgwario, y rhif hwnnw yw ail isradd yr ateb.

Er enghraifft:

    52 = 5 × 5 = 25, felly ail isradd 25 yw 5.

Gall yr ail isradd hefyd fod yn rhif negatif.

Er enghraifft:

    (–5)2 = –5 × –5 = 25, felly mae ail isradd 25 hefyd yn –5.