diagram coesyn a dail eg

Mae’r math hwn o ddiagram yn cael ei ddefnyddio i ddangos data wedi’u grwpio.

Er enghraifft, mae disgyblion blwyddyn 8 yn sefyll prawf mathemateg sy’n cael ei farcio allan o 50.

Dyma’r canlyniadau:

    7, 50, 42, 11, 36, 13, 44, 22, 25, 14, 29, 34, 37, 29, 44, 9, 18, 17, 37, 46, 48, 19, 38, 5, 29, 50, 41, 28, 49, 17

Mae’n haws dehongli’r data hyn trwy eu dangos ar ffurf diagram coesyn a dail, fel sy’n cael ei ddangos yn y llun.

Mae’r rhifau wedi’u rhannu yn ddegau ac unedau.

Mae’r degau, sef y cyfyngau dosbarth, yn ffurfio’r coesyn ac mae’r unedau, sef yr holl sylwadau, wedi’u rhestru yn erbyn y coesyn i ffurfio’r dail.

Mae diagram coesyn a dail yn debyg i histogram ar ei ochr.