gwerth lle (gwerthoedd lle) eg
Mae gwerth digid yn dibynnu ar ei safle mewn rhif.
Mae’r tabl cyferbyn yn dangos gwerthoedd lle.
Yn y rhif 1482, mae 1 yn y safle Mil, 4 yn y safle Cant, 8 yn y safle Deg a 2 yn y safle Uned.
Yn y rhif 12.34, mae 1 yn y safle Deg, 2 yn y safle Uned, 3 yn y safle Degfed a 4 yn y safle Canfed. Gallwn ddweud bod y rhif 3 yn dangos gwerth 0.3.