dwysedd (dwyseddau)eg
Mesur o fàs gwrthrych fesul uned o gyfaint yw dwysedd.
Y fformiwla ar gyfer dwysedd yw:
-
Dwysedd = Màs ÷ Cyfaint
Bydd yr uned mesur dwysedd yn dibynnu ar yr unedau màs a’r unedau cyfaint sy’n cael eu defnyddio yn y cyfrifiad.
Er enghraifft, os yw màs yn cael ei fesur mewn cilogramau a’r cyfaint yn cael ei fesur mewn metrau ciwbig, yna yr uned dwysedd yw cilogramau y metr ciwbig (kg/m³).