cyfwng dosbarth anghyfartal (cyfyngau dosbarth anghyfartal) eg

Dyma’r enw ar ddata sy’n deillio o gyfrifiadau ac arsylwadau sydd wedi’u grwpio mewn dosbarthiadau o amrediad gwahanol. Nid yw’r dosbarthiadau’n gorgyffwrdd.

Er enghraifft, mae’r tabl yn dangos y swm o arian a godwyd gan ddisgyblion ar gyfer taith gerdded noddedig.

Gallwn weld bod y cyfwng dosbarth yn anghyfartal oherwydd nid yw’r data wedi’u grwpio yn gyson. Mae’n amrywio rhwng 50, 100, 300 a 500.