segment eiledol (segmentau eiledol)eg

Gadewch i ni feddwl am gord mewn cylch. Mae hyn yn cael ei ddangos ar y diagram gan y llinell sy’n cysylltu’r pwynt D a’r pwynt C ar y cylch.

Pan mae tangiad yn cyfarfod â chord ar gylchyn, mae ongl yn cael ei ffurfio rhwng y tangiad a’r cord. Mae hyn wedi ei labelu a.

Mae’r cord yn rhannu’r cylch yn ddau segment. Mae un segment rhwng y cord a’r tangiad. Y segment arall yn y cylch yw’r segment eiledol.

Mae ongl sy’n cael ei ffurfio yn y segment eiledol gan ddau ben y cord yn hafal i’r ongl a. Felly, yn y diagram, mae ongl b yn hafal i ongl a.