locws (loci / locysau)eg
Llinell, cromlin neu ranbarth o bwyntiau sy’n bodloni rheol benodol yw locws.
Gadewch i ni ddefnyddio cylch fel enghraifft o locws.
Locws pwyntiau sy’n 2 cm o’r pwynt A yw’r cylch hwn. Mae ei ganol yn A ac mae ei radiws yn 2 cm.
Felly, locws pwyntiau sy’n llai na 2 cm o A yw’r rhanbarth y tu mewn i’r cylch, a locws pwyntiau sy’n fwy na 2 cm o A yw’r rhanbarth y tu allan i’r cylch.