afreolaidd ans
Mae ‘afreolaidd’ yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio polygon lle nad yw pob un o’r ochrau yn hafal, neu nid yw pob un o’r onglau yn hafal.
Enghreifftiau o bolygonau pedrochr afreolaidd yw:
Mae pob un o onglau petryal yn hafal (onglau sgwâr), ond nid yw pob un o’r ochrau yn hafal.
Mae pob un o ochrau rhombws yn hafal, ond nid yw pob un o’r onglau yn hafal.