cwmpas (cwmpasau) eg
Darn o offer sy’n cael ei ddefnyddio i luniadu cylch sydd â radiws penodol yw cwmpas. Mae hefyd yn gallu cael ei ddefnyddio i luniadu arc.
Pin y cwmpas sy’n cael ei ddefnyddio i farcio canol y cylch. Fel arfer, rydym yn rhoi pensil yn ochr arall y cwmpas i luniadu’r cylch.
Mae’n bosibl defnyddio cwmpas a phren mesur i haneru ongl neu i luniadu’r canlynol:
• onglau penodol, er enghraifft 30°
• triongl wrth raddfa
• hanerydd perpendicwlar.