dadelfennu ffactorau cysefin ans
Dyma’r term am y broses o fynegi rhif fel lluoswm ei ffactorau cysefin. Hynny yw, rydym yn cyfrifo pa rifau cysefin sy’n cael eu lluosi â’i gilydd i roi’r rhif hwnnw.
Er enghraifft, y rhif 6 wedi’i ysgrifennu fel lluoswm ei ffactorau cysefin yw 2 × 3.