amlder disgwyliedig eg

Mae tebygolrwydd yn gallu cael ei ddefnyddio i ragfynegi pa mor aml y bydd canlyniad yn digwydd. Yr enw ar y rhagfynegiad hwn yw amlder disgwyliedig. Dyma’r fformiwla ar ei gyfer:

    amlder disgwyliedig = tebygolrwydd × nifer y cynigion

Mae’n bosibl defnyddio’r fformiwla hwn i gyfrifo sawl diwrnod heulog y gallwn ei ddisgwyl mewn mis penodol.

Er enghraifft, y tebygolrwydd o gael diwrnod heulog ym mis Ebrill yw 0.4. O wybod bod 30 diwrnod yn y mis hwn, 0.4 × 30 = 12. Felly, gallwn ddisgwyl 12 diwrnod heulog ym mis Ebrill.